Mae Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yn rhan allweddol a gwerthfawr o'n teulu Eglwys. Dros y blynyddoedd mae'r cymysgedd oedrannau wedi amrywio, yn cynnwys plant y rhai sy'n mynychu'n gyson yn ogystal â'r rhai sydd ddim on yn dod i ddigwyddiadau sy'n addas i'w hoedran....
Ar foreau Sul dyn ni'n cynnal Ysgol Sul ochr yn ochr a'r oedfa yn ystod tymor yr ysgol, yn ogystal â chael cornel plant yn y Capel. Weithiau, mae'r plant yn aros i mewn ar gyfer Oedfa Deulu. Dyn ni hefyd yn trefnu digwyddiadau teuluol achlysurol fel Llan Llanast.
Ar hyn o bryd mae gynnon ni ystod eang o oedrannau, babis, plant bach, plant cynradd, uwchradd yn ogystal â'r rhai sydd ar fin gadael ar gyfer y Prifysgol.
Ers llawer o flynyddoedd dyn ni wedi rhedeg grwp Babis a Phlant bach bob bore dydd Mawrth yn ystod tymor yr ysgol. Os ydych yn rhiant, yn fam-gu, dad-cu, warcheidwad neu'n ofalwr plant, mae croeso i chi ddod â'r plentyn yn eich gofal.
Fel arfer dyn ni'n cael awr o chwarae rhydd, yna amser diod a snac ar gyfer y plant a'r oedolion.
Yna bydd amser canu a stori o'r Beibl oherwydd dyn ni'n credu mai adnabod Iesu yw'r peth gorau yn y byd i chi a'ch teulu.
Os oes gyda chi ddiddordeb, gwestiynau, neu angen gweddï, mae'r tîm yma i chi.
Mae gyda ni berthynas agos gyda'r Ysgol Gynradd Leol. We have a close relationship with the local primary school. Bob tymor mae dosbarthiadau o'r ysgol yn ymweld â'r Eglwys ar achlysuron arbennig fel Nadolig a'r Pasg. Dyma lun o'r tîm ar ôl rhedeg sesiwn 'Lapio'r Nadolig' gyda Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Maes Y Morfa.
Yn ystof gwyliau'r ysgol dyn ni'n rhedeg clybiau gwyliau a digwyddiadau teulu fel Llan Llanast adeg y Nadolig a'r Pasg.