Dyn ni'n cwrdd am 11yb bob Sul yng Nghapel Bethania ar gyfer ein hoedfa fore. Mae'r gwasanaethau yma wedi'u hanelu'n fwy ar gyfer teuluoedd ac yn filyn thema mwy anffurfiol a chroesawgar i ymwelwyr, boed nhw'n Gristnogion aeddfed neu'n chilfrydig am ffydd yn Iesu.
Dyn ni hefyd yn cwrdd am 6yh ar Sul cyntaf y mis ar gyfer ein hoedfa nos. Ar hyn o bryd mae'r cwrdd yma yn dilyn thema mwy traddodiadol, er ein bod ar hyn o bryd yn ceisio ail-ddychmygu y fformat mwyaf addas.
Mae'r rhan fwyaf o'n gwasanaethau yn cael eu rhedeg drwy gyfrwng Saesneg, er ein bod yn canu ambell i emyn Cymraeg. Fel eglwys gyda nifer sylweddol o siaradwyr cymraeg dyn ni'n agored iawn i ystyried y ffordd fwyaf addas i anrhydeddu a gwasanaethu Cymry Cymraeg.
Mae'r oedfa fore Sul yn cael ei darlledu dros Zoom ac wedyn yn cael ei rhannu ar Youtube. Mae'n recordiadau ar gael yma.