Yn 2007, Roedd Emmanuel a Bethania yn eglwysi annibynnol yn Undeb Y Bedyddwyr Cymru. Emmanuel oedd yr eglwys saesneg ei hiaith, tra Bethania oedd yr eglwys gymraeg ei hiaith. Ar y pryd roedd Gweinidog Emmanuel, Y Parch. Bernard Haynes, yn dymuno ymddeol, ac roedd Bethania hefyd yn cael eu hunain yn ddi-weinidog. Arfer eglwysi bedyddiedig yw ceisio gweinidog newydd.
Ym mhen amser ac ar ôl sawl cyfarfod gyda Parch. Marc Owen, Ysgrifennydd Bywyd yr Eglwys, UBC, cynnigwyd y Parch Paul Smethurst i arwain y ddwy eglwys ar wahan. Dyma beth ddigwyddodd, ac ar 15fed o Fawrth, 2008, cafodd Paul ei ordeinio'n weinidog yng ngofalaeth y ddwy eglwys.
Hyd yn oed yn y dyddiau cynnar daeth yn amlwg y byddai'r eglwysi yn gryfach gyda'i gilydd, a byddai llawer o'r gweithgareddau yn cael eu rhedeg ar y cyd. Yn fuan iawn byddai'r ddwy eglwys yn cyd-addoli ar foreau Sul ac yna ar wahan gyda'r nos drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Fodd byname, wrth i amser fynd yn ei flaen, penderfynodd y ddwy eglwys i uno.
Felly oedd hi ar 27ain o Fehefin 2016, cynhaliwyd cwrdd eglwys gyntaf Eglwys Y Bedyddwyr Hope Gobaith. Y diaconiaid gwreiddiol oedd: Jonathan Powell, Eric Davies, Dilys Ward, Ann Jones ac Alwyn Jones gyda Jeanette Moore yn ymuno'n fuan wedyn.
Roedd y arbennig o hyfryd fod y ddwy eglwys hon wedi uno, gan eu bod nhw yn un eglwys yn y dechrau un. Mi wnaeth aelodau Emmanuel adael Bethania yn 1896 er mwyn sefydlu achos Saesneg. Felly, bellach mae'r ddwy eglwys bellach yn cael eu hunan yn un eglwys, aml-ieithog!