Fel Eglwys dyn ni'n cael ein trefnu a'n llywodraethu yn ôl egywddorion traddodiadol Y Bedyddwyr, sy'n golygu fod awdurdod yn gorwedd gyda'r aelodaeth a'r cwrdd Eglwys. Mae'r aelodau'n penodi'r Diaconiaid i redeg materion ymarferol ac i gynorthwyo'r Gweinidog gyda gofal bugeiliol. Bydd y cwrdd Eglwys hefyd yn penodi Ysgrifenydd a Thrysorydd o blith y Diaconiaid. Bydd eraill o'r corff yn cyfrannu at waith yr Eglwys yn ôl eu doniau a'u gallu.
Mae'r Eglwys yn aelod o Undeb Y Bedyddwyr Cymru a Chymanfa Gorllewin Morgannwg.
Er eglurdeb, yn ddaearyddol dyn ni yn Sîr Gaerfyrddin ni Gorllewin Morgannwg!
Dyma ein Tîm Arwain, sy'n cynnwys y Gweinidog, Y Diaconiaid ac arweinwyr gweinidogaethau'r eglwys.